School Logo

Ysgol Gymraeg Glan Ceubal

Manylion Cyswllt / Contact Details

Rhif Ffôn/ Phone Number: 02920 626650

Ebost/ Email: ysgolglanceubal@cardiff.gov.uk

Get in touch

Cylchlythyron/ Newsletters

09/02/24

Annwyl deuluoedd,

Mae’r wythnosau wedi hedfan ac rydyn ni wedi cyrraedd hanner tymor! Braf iawn i weld y Gwanwyn yn dechrau codi ei ben unwaith eto. O bêl droed i ddiogelwch ar y we mae wedi bod yn wythnos lawn dysgu a mwynhau!

Cefais f’ysbrydoli heddiw i wrando ar fwy o gerddoriaeth Cymraeg gan yr holl weithgareddau ar lawr y dosbarthiadau yn dathlu Dydd Miwsig Cymru! Diolch i'n hathrawon a'n Criw Cymraeg am eu brwdfrydedd wrth drefnu gweithgareddau y diwrnod.

Diolch i ‘Dirty Gnochi’ am ddod i ddysgu disgyblion blwyddyn 2 a 3 am fwyd a phasta Dydd Llun. Da iawn hefyd i’r Tim Pêl Droed am chwarae yn y glaw a’r gwynt yn nhwrnament yr Urdd Dydd Mercher, gwych bechgyn!

Am gyfle arbennig cafodd blwyddyn 3 a 5 heddiw wrth gymryd rhan yn y dathliadau ‘Sing Together’ a threfnwyd gan ABC Opera, rydyn ni’n edrych ymlaen at glywed y recordiad!

Yn olaf, hoffwn estyn fy nymuniadau gorau i Ela, Ellie, ac Emilee o Flwyddyn 5, sydd yn mynd i ffilmio 'Stwnsh Sadwrn' heno ac yfory. Rwy'n edrych ymlaen yn eiddgar at y cyfle i wylio'r rhaglen yn fyw bore yfory a gweld eu gwaith caled a'u talent yn cael eu harddangos. Gwyliwch S4C rhwng 8yb a 10yb i weld sut mae'r merched yn gwneud!

Dyddiadau pwysig i nodi yn dilyn hanner tymor;

• Chwefror 19: Pob disgybl yn dychwelyd i'r ysgol

•Chwefror 19: Ymweliad blwyddyn 3 i Ganolfan Preswyl yr Urdd ym Mae Caerdydd

DYDD SADWRN, Chwefror 24: Eisteddfod y Clwstwr yn Ysgol Gyfun Glan Taf.

• Mawrth 1: Dydd Gŵyl Dewi (Disgyblion i ddathlu mewn gwisg/thema Cymraeg, tra hefyd yn cofio am Erwan)

• Mawrth 4 – 8 Mawrth : Nosweithiau Rhieni

• Mawrth 7: Diwrnod y Llyfr

• Mawrth 9 (DYDD SADWRN) : Eisteddfod Sir

• Mawrth 22: Diwedd Tymor

• Ebrill 8: Diwrnod HMS (Ysgol ar gau i ddisgybl)

• Ebrill 8 - Ebrill 10: Blwyddyn 4 i ymweld â chanolfan breswyl Maesyfron

• Ebrill 9: Pob disgybl yn dychwelyd i'r ysgol

Ein presenoldeb wythnosol ar draws yr Ysgol = 94% YMDRECH FFANTASTIG PAWB! Diolch i bawb sy’n cyrraedd yn brydlon, cofiwch mai’r gatiau yn agor am 8.45 ac yn cau am 9.00.

Cofiwch ymuno a ni ar ClassDojo, dilynwch ni ar Twitter @glanceubal ac/neu Instagram @ysgolglanceubal.

Mwynhewch y saib dros hanner tymor, ac edrychaf ymlaen at weld beth ddaw weddill y flwyddyn ysgol.

_______________________________________________________________________________________

Dear Families,

As we wrap up this term and head into the half-term break, it’s amazing to see how quickly the weeks have passed and the early signs of Spring beginning to show. This week has been a vibrant mix of learning, from football to internet safety, and it’s been wonderful to witness.

I was inspired today to listen to more Welsh music from all the activities going on in class celebrating ‘Dydd Miwsig Cymru!’ Thanks to the enthusiasm and activities organised by the teachers and the ‘Criw Cymraeg’

Thanks to 'Dirty Gnochi' for their engaging session on food and pasta with our Year 2 and 3 pupils on Monday. Congratulations to the School Football Team for playing in the rain and wind in Wednesday's Urdd tournament, they braved the elements with remarkable determination.

What a great opportunity year 3 and 5 had today whilst taking part in the 'Sing Together' celebrations organised by ABC Opera, we are looking forward to hearing the recording!

Lastly, I want to extend my best wishes to Ela, Ellie, and Emilee from Year 5, who are off to film ‘Stwnsh Sadwrn’ tonight and tomorrow. I am eagerly anticipating the chance to watch the program live tomorrow morning and see their hard work and talent on display. Tune in to S4C between 8am and 10am to see how the girls fair!

Important key dates following half term:

February 19: School resumes and Year 3 Residential Trip to the Urdd Centre, Cardiff Bay

February 24 (Saturday): Cluster Eisteddfod at Ysgol Gyfun Glan Taf

March 1: St David's Day (Pupils to celebrate in Welsh-themed attire, while also taking time to remember Erwan)

March 4 – March 8: Parent Consultations

March 7: World Book Day

March 9 (Saturday): County Eisteddfod

March 22: End of Term

April 8: INSET Day (School closed to all pupils)

April 8 - April 10: Year 4 Residential Trip to

Maesyfron

April 9: School Resumes

We're pleased to announce that our school's attendance this week is at 94%— FANTASTIC EFFORT EVERYONE! Thanks to everyone who arrive promptly, remember the gates open at 8.45 and close at 9.00.

Remember to join us on ClassDojo, follow us on Twitter @glanceubal, and Instagram @ysgolglanceubal.

Enjoy the half-term break, and I look forward to seeing what the rest of the school year brings.

Warm regards,

Siân Eleri Fudge

Top